Numbers 2

Trefn y Llwythau yn y gwersyll

1Dyma'r Arglwydd yn dweud wrth Moses ac Aaron: 2Rhaid i bobl Israel wersylla o gwmpas Pabell presenoldeb Duw (sef y Tabernacl), gan wynebu'r Tabernacl. Mae pawb i wersylla o dan fflag eu llwyth eu hunain.
3Ar yr ochr ddwyreiniol bydd adrannau'r tri llwyth yma yn gwersylla dan eu fflag:

Llwyth Arweinydd Nifer
Jwda Nachshon fab Aminadab 74,600
Issachar Nethanel fab Tswár 54,400
Sabulon Eliab fab Chelon 57,400
Cyfanswm: 186,400

Y milwyr ar ochr Jwda o'r gwersyll fydd yn arwain y ffordd pan fydd pobl Israel yn symud.

10I'r de bydd adrannau tri llwyth arall yn gwersylla dan eu fflag:

Llwyth Arweinydd Nifer
Reuben Elisur fab Shedeŵr 46,500
Simeon Shelwmiel fab Swrishadai 59,300
Gad Eliasaff fab Dewel
2:14-15 gw. Numeri 1:14, a llawer o lawysgrifau Hebraeg.
45,650
Cyfanswm: 151,450

Y milwyr yma ar ochr Reuben i'r gwersyll fydd yn ail i symud allan.

17Wedyn bydd gwersyll y Lefiaid yn symud, gyda Pabell presenoldeb Duw. Nhw fydd yn y canol. Mae'r llwythau i gyd i symud allan mewn trefn, pob un ohonyn nhw dan ei fflag ei hun.

18Ar yr ochr orllewinol bydd adrannau y tri llwyth nesaf yn gwersylla dan eu fflag:

Llwyth Arweinydd Nifer
Effraim Elishama fab Amihwd 40,500
Manasse Gamaliel fab Pedatswr 32,200
Benjamin Abidan fab Gideoni 35,400
Cyfanswm: 108,100

Y milwyr yma ar ochr Effraim i'r gwersyll fydd y trydydd i symud allan.

25I'r gogledd bydd adrannau'r tri llwyth olaf yn gwersylla o dan eu fflag:

Llwyth Arweinydd Nifer
Dan Achieser fab Amishadai 62,700
Asher Pagiel fab Ochran 41,500
Nafftali Achira fab Enan 53,400
Cyfanswm: 157,600

Y milwyr yma ar ochr Dan i'r gwersyll fydd yn symud allan olaf. Bydd pob llwyth yn mynd dan ei fflag ei hun.

32Dyma'r rhai gafodd eu cyfrif o Israel yn ôl eu llwythau. Cyfanswm y dynion yn yr adrannau i gyd ydy 603,550. 33Doedd y Lefiaid ddim wedi cael eu cyfrif gyda gweddill pobl Israel. Dyna oedd yr Arglwydd wedi ei orchymyn i Moses. 34Felly dyma bobl Israel yn gwneud popeth roedd yr Arglwydd wedi ei ddweud wrth Moses. Roedd pob llwyth a theulu yn gwersylla dan eu fflag eu hunain, ac yn symud gwersyll fel roedd yr Arglwydd wedi dweud.

Copyright information for CYM